Metro Plus: Cyfnewidfa Drafnidiaeth Porth
Beth yw'r prosiect?
Mae Metro Plus yn rhaglen o gynlluniau gwerth £30 miliwn, a ddatblygwyd ar y cyd â’r Awdurdod Trafnidiaeth Rhanbarthol, i gefnogi’r gwaith o gyflwyno Metro De Cymru.
O dan drefniadau Rhaglen Metro Plus yr Awdurdod Trafnidiaeth Rhanbarthol, bydd pob un o’r deg awdurdod lleol yn Ne-ddwyrain Cymru’n derbyn £3 miliwn i roi cynllun ar waith. Bydd cyllid yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru (£15 miliwn) a Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (£15 miliwn) er mwyn cyflwyno’r rhaglen hon. Daw £20 miliwn pellach o gyllid awdurdodau lleol ac o fuddsoddiad preifat.
Byddai darparu canolfan drafnidiaeth newydd ar gyfer Porth, cyfagos i orsaf drenau Porth, yn cynnig cyfle unigryw i wneud gwelliannau sylweddol i gyfleusterau’r gyfnewidfa rhwng gwasanaethau bws a gwasanaethau trên, a chreu man cyrraedd deniadol i ganol dref Porth. Byddai hyn yn gwella’r cysylltedd â chanol y dref ac yn darparu cysylltiadau trafnidiaeth di-dor, a allai arwain at fwy o ymwelwyr a gweithredu fel hwb ar gyfer y gwaith adfywio a buddsoddi y mae angen mawr amdano ym Mhorth.
Rhannu:
Mae Porth, â phoblogaeth o tua 5,991, yn gymuned a thref bwysig sy’n gweithredu fel porth i Gymoedd De Cymru ac mae wedi’i lleoli yng Nghwm Rhondda, ym Mwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn Ne Cymru. Mae’r aneddiad tua 22 cilometr i’r gogledd-orllewin o Gaerdydd a thua 37 cilometr i’r dwyrain o Abertawe a chaiff ei ystyried fel y porth trafnidiaeth i Gwm Rhondda Fawr a Chwm Rhondda Fach, yn y man lle mae afon Rhondda Fach ac afon Rhondda Fawr yn ymuno.
O safbwynt cysylltedd trafnidiaeth, mae Porth wedi’i chysylltu’n dda â Chaerdydd, Pontypridd ac aneddiadau eraill o fewn ardal Rhondda Cynon Taf, naill ai trwy reilffordd Treherbert, sydd â dau drên yn rhedeg i Bontypridd a Chaerdydd bob awr, neu ar y ffordd ar hyd yr A4058 a’r A470. Mae gorsaf drenau Porth wedi’i lleoli yn gyfagos i ganol y dref, ac mae o fewn pellter cerdded o’r brif ardal siopa yn Stryd Hannah. Mae cyfleuster parcio a theithio â 73 o fannau parcio wedi’i leoli yn gyfagos i’r orsaf drenau, ac mae’n gweithredu i’w eithaf ar hyn o bryd.
Mae deuddeg gwasanaeth bws yn cysylltu Porth â chymunedau lleol yng Nghwm Rhondda, Pontypridd, Caerffili a Chaerdydd. Fodd bynnag, ceir cyfnewidfa drafnidiaeth wael rhwng gwasanaethau bws a gwasanaethau trên ac, ar hyn o bryd, mae’r gwasanaeth bws agosaf wedi’i leoli cannoedd o fetrau i ffwrdd o’r orsaf drenau ac nid oes unrhyw safleoedd tacsis hygyrch. Mae’r mannau parcio beiciau diogel agosaf wedi’u lleoli ym maes parcio’r cyfleuster parcio a theithio.
Er gwaethaf lleoliad Porth, a’i chysylltiadau trafnidiaeth, mae’r dref wedi profi amddifadedd cymdeithasol ac economaidd dros y blynyddoedd diwethaf, a bu diweithdra uchel, diboblogi, a gostyngiad yn y nifer o ymwelwyr yng nghanol y dref. Mae effeithiau hyn yn amlwg yng nghanol tref Porth, lle ceir nifer o siopau gwag a sawl adeilad adfeiliedig, sy’n rhoi golwg ddigroeso i ganol y dref a’r argraff ei bod wedi’i hesgeuluso. Mae hyn wedi denu unigolion sy’n ymddwyn mewn ffordd wrthgymdeithasol, ac, o ganlyniad, mae’r ardal wedi’i difetha dros gyfnod hir a cheir llai o fewnfuddsoddiad.
Byddai’r ganolfan newydd hon yn trawsnewid canol tref Porth, drwy wella’i chysylltedd, denu buddsoddiad, denu mwy o bobl i’r dref, a chreu porth modern iddi. Yn ogystal, disgwylir y câi gwaith datblygu’r ganolfan drafnidiaeth effaith gydgrynhoi ar fanwerthu yng nghanol y dref.
Buddsoddi a throsoledd
£1.5m
Buddsoddiad Prifddinas-Ranbarth Caerdydd
£3.5m
Cyllid cyfatebol
£tbc
Trosoledd rhagweledig
Buddion a chanlyniadau a ddisgwylir
Mae potensial uchel iawn y gallai’r ganolfan drafnidiaeth gyfrannu at adfywio Porth, ynghyd â chyfrannu at yr uchelgeisiau a amlinellir yn Strategaeth Canol Tref Porth 2018/19, a’r weledigaeth o greu Metro De Cymru. Yn ogystal, byddai’r ganolfan drafnidiaeth yn cyflwyno cyfnewidfa ddi-dor, deniadol ac effeithlon rhwng dulliau gwahanol o deithio, ac yn darparu porth modern croesawgar i’r dref, a byddai’n cyfrannu at y cysyniad o greu lle.
Pethau allweddol y gellir eu cyflawni
Cyfnewidfa fysiau/drenau newydd â chyfleusterau a rennir i deithwyr, gan gynnwys swyddfa docynnau; man gollwng i dacsis; seilwaith ar gyfer cerbydau trydanol; cyfleuster parcio a theithio; cyfleusterau i feiciau (posibilrwydd nextbike); brandio Trafnidiaeth Cymru.