Metro Plus: Parcio a Theithio Cyffordd Twnnel Hafren

Statws: Cyflwyno
Creu maes parcio ychwanegol â 150-200 o fannau parcio ar ochr ddeheuol gorsaf drenau Cyffordd Twnnel Hafren ac ailgyflunio maes parcio presennol yr orsaf fel ei fod yn cynnwys mannau beicio a theithio ychwanegol, mynediad mwy diogel i gerddwyr a beicwyr, cyfnewidfa fysiau a threnau sydd wedi’i hailwampio, mannau gwefru cerbydau trydanol, a chyfleusterau adeiladau’r orsaf sydd wedi’u gwella.

Beth yw'r prosiect?

Mae Metro Plus yn rhaglen o gynlluniau gwerth £50 miliwn, a ddatblygwyd ar y cyd â’r Awdurdod Trafnidiaeth Rhanbarthol, i gefnogi’r gwaith o gyflwyno Metro De Cymru.

O dan drefniadau Rhaglen Metro Plus yr Awdurdod Trafnidiaeth Rhanbarthol, bydd pob un o’r deg awdurdod lleol yn Ne-ddwyrain Cymru’n derbyn £3 miliwn i roi cynllun ar waith. Bydd cyllid yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru (£15 miliwn) a Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (£15 miliwn) er mwyn cyflwyno’r rhaglen hon, a daw £20 miliwn bellach o gyllid awdurdodau lleol ac o fuddsoddiad preifat.

Mae’r cynnig yn cynnwys nifer o welliannau arfaethedig yng ngorsaf drenau Cyffordd Twnnel Hafren, gan gynnwys mannau parcio ychwanegol, gwelliannau i fynediad a chyfleusterau, mannau storio beiciau, a chyfleusterau gwefru cerbydau trydanol.

Rhannu:

Mae’r cynnig yn cynnwys nifer o welliannau arfaethedig i orsaf drenau Cyffordd Twnnel Hafren, gan gynnwys y canlynol:

  • Ymestyn y maes parcio – Adeiladu maes parcio ychwanegol, yn cynnwys tua 150 o fannau parcio, i’r de o’r orsaf bresennol, gan gynnwys llwybr troed ar ochr ddeheuol y maes parcio newydd i gysylltu â Pharc Gwledig Rogiet.
  • Ymestyn y bont droed – Ymestyn y bont droed bresennol at yr estyniad maes parcio newydd.
  • Mynediad teithio llesol gwell o gyfeiriad Rogiet – Uwchraddio’r llwybr troed ar hyd Heol yr Orsaf rhwng y B4245 a gwesty blaenorol yr orsaf, creu llwybr troed newydd rhwng gwesty blaenorol yr orsaf a’r gyffordd â ffordd ddynesu’r orsaf (cyflawnwyd yn ystod y flwyddyn ariannol flaenorol), gwelliannau i gyfleusterau’r groesfan ar y gyffordd rhwng Heol yr Orsaf a ffordd ddynesu’r orsaf, llwybr troed newydd rhwng cyffordd y prif faes parcio a ffordd ddynesu’r orsaf (cyflwynwyd datrysiad interim gan Network Rail yn 2019), llwybr troed newydd ar draws y prif faes parcio i brif fynedfa’r orsaf.
  • Gwelliannau i fynediad teithio llesol o gyfeiriad Cil-y-coed – Uwchraddio’r llwybr llaid presennol rhwng y brif fynedfa a Garhalan Drive (yn gyfochrog â’r rheilffordd) yn unol â safonau’r canllawiau dylunio ar gyfer teithio llesol.
  • Gwelliannau i fynediad teithio llesol o gyfeiriad Magwyr/Gwndy – Adeiladu llwybr troed / llwybr beicio cyfunol ar hyd y B4245 rhwng Rogiet a Gwndy. (Nid oes gan y rhan hon o’r ffordd lwybr ar wahân ar hyn o bryd.)
  • Cyfyngiadau parcio ar draws Rogiet – I atal cymudwyr rhag parcio’u cerbydau ar hyd strydoedd Rogiet.
  • Adfer maes parcio’r Parc Gwledig – Gan gynnwys cyfyngiadau parcio i atal cymudwyr rhag parcio’u cerbydau ym maes parcio’r Parc Gwledig, gan rwystro ymwelwyr rhag ei ddefnyddio.
  • Cydgrynhoi’r maes parcio – Uno safonau, a’r gwaith o reoli, prif faes parcio presennol yr orsaf (a reolir ar hyn o bryd gan Wasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru), y maes parcio gorlif / maes parcio Rogiet presennol ar yr ochr ogleddol (a reolir ar hyn o bryd gan Gyngor Sir Fynwy), a’r maes parcio newydd ar yr ochr ddeheuol.
  • Mannau storio beiciau ychwanegol.
  • Cyfleusterau gwell yn yr orsaf – Swyddfa docynnau well, ystafell aros, a chaffi o bosib.
  • Cysylltiad ffeibr digidol (gosod pibellau) – Yn unol â gofynion Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.
  • Mannau gwefru cerbydau trydanol – Yn unol â gofynion Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.
  • Adolygu cyfleoedd ar gyfer darparu ynni adnewyddadwy – E.e. trwy ddarparu to o baneli solar dros rai o’r mannau parcio ceir. Adolygir hyn fel rhan o’r gwaith.
  • Adolygu cyfleoedd ar gyfer cyfnewidfa fysiau – Nid oes gwasanaeth bws ar hyn o bryd i Gyffordd Twnnel Hafren, ond mae Cyngor Sir Fynwy wedi gwneud cais am gyllid o Gronfa Wella Cwsmeriaid a Chymunedau GWR er mwyn darparu gwasanaeth gwenoli cymudwyr.
  • Adolygu cyfleoedd ar gyfer cyfleusterau o fath tebyg i nextbike.
Mwy o wybodaeth …

Mae Cyffordd Twnnel Hafren wedi’i lleoli ym mhentref Rogiet, yn ardal Glan Hafren yn Sir Fynwy, Cymru. Mae ei lleoliad ar ochr orllewinol y twnnel rheilffordd sy’n mynd o dan afon Hafren, ar gyffordd prif reilffordd De Cymru o gyfeiriad Llundain a’r rheilffordd rhwng Caerloyw a Chasnewydd. Casnewydd yw’r orsaf nesaf tua’r gorllewin. Mae’r gorsafoedd nesaf tua’r dwyrain yn Pilning yn ne Swydd Gaerloyw (trwy Dwnnel Hafren) a’r orsaf gyfagos yng Nghil-y-coed (ar hyd y rheilffordd i Gaerloyw).

Mae pentref Rogiet wedi’i leoli i’r de o’r B4245 rhwng Cil-y-coed, sydd tua 2 gilometr i’r gorllewin, a Magwyr/Gwndy, sydd tua 3 chilometr i’r dwyrain. I’r de mae traffordd yr M4 ac aber Hafren. I’r gogledd mae’r M48, sy’n ymuno â’r M4 yng Nghyffordd 23 ychydig i’r gorllewin o Rogiet, a’r tu hwnt iddi mae ardal wledig, fryniog â phoblogaeth gymharol wasgaredig.

Yn 2019, cynhaliodd Cyngor Sir Fynwy a Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru ymarfer prif gynllunio ar gyfer yr elfen o’r gwaith a fyddai’n cael effaith uniongyrchol ar yr orsaf / tir y rheilffordd.

Buddsoddi a throsoledd

£1.5m

Buddsoddiad Prifddinas-Ranbarth Caerdydd

stats-chevron

£3.5m

Cyllid cyfatebol

stats-chevron

£tbc

Trosoledd rhagweledig

stats-chevron

Buddion a chanlyniadau disgwyliedig

Gwelliant yn hygyrchedd y gyfnewidfa yng Nghyffordd Twnnel Hafren, o ran newid rhwng dulliau o deithio, trwy wella’r seilwaith, y wybodaeth i deithwyr, a’r gwasanaethau.

  • Gwelliant yn y mynediad i gyfleusterau parcio a theithio, ac i’r mynediad rhwng y safleoedd parcio a theithio a phlatfformau’r orsaf.
  • Annog newid yn y dull o deithio tuag at ddulliau cynaliadwy a dulliau teithio llesol.
  • Gwelliant yn y ddarpariaeth teithio llesol.
  • Cynnwys seilwaith gwefru trydanol, a darparu ar gyfer newidiadau mewn technoleg y gall fod yn ofynnol er mwyn lliniaru yn erbyn y newid yn yr hinsawdd.

Pethau allweddol y gellir eu cyflawni ar gyfer 2021/22

  • Cwblhau’r estyniad i’r maes parcio ar yr ochr ddeheuol.
  • Cwblhau’r gwelliannau i fynediad teithio llesol ar y gyffordd rhwng Heol yr Orsaf, ffordd ddynesu’r orsaf a’r bont ffordd.
  • Cwblhau gwaith dylunio’r bont ffordd (gan gynnwys holl gamau cymeradwyo Network Rail).
  • Cwblhau gwaith dylunio’r mynediad teithio llesol ar hyd ffordd ddynesu’r orsaf ac ar draws y maes parcio gogleddol.
  • Cwblhau gwaith cyflwyno’r cyfyngiadau parcio o fewn Rogiet (cyflwynir y rhain ar ôl cwblhau’r maes parcio newydd ar yr ochr ddeheuol).

Y partneriaid a phobl allweddol sydd ynghlwm

Mae’r prosiect yn cynnwys cytundeb rhwng Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Fynwy.

CCR Partner Logo
Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd
Welsh Government Partner Logo
Llywodraeth Cymru
partner-monmouthshire
Cyngor Sir Fynwy

Y newyddion diweddaraf ar y prosiect

There are no project updates at present. Please check back later.