Metro Plus: Parcio a Theithio Pont-y-pŵl a New Inn
Beth yw'r prosiect?
Mae Metro Plus yn rhaglen o gynlluniau gwerth £50 miliwn, a ddatblygwyd ar y cyd â’r Awdurdod Trafnidiaeth Rhanbarthol, i gefnogi’r gwaith o gyflwyno Metro De Cymru.
O dan drefniadau Rhaglen Metro Plus yr Awdurdod Trafnidiaeth Rhanbarthol, bydd pob un o’r deg awdurdod lleol yn Ne-ddwyrain Cymru’n derbyn £3 miliwn i roi cynllun ar waith. Bydd cyllid yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru (£15 miliwn) a Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (£15 miliwn) er mwyn cyflwyno’r rhaglen hon. Daw buddsoddiad pellach o £20 miliwn o awdurdodau lleol ac o fuddsoddiad preifat.
Rhannu:
Mae prosiect Parcio a Theithio Pont-y-pŵl a New Inn yn cynnwys darparu tua 200 o fannau parcio, gan gynnwys mannau gwefru cerbydau trydanol.
Nod y cynllun yw torri’r cylch presennol o gyfleusterau/gwasanaethau gwael trwy ddarparu cyfnewidfa fel bod yr orsaf yn gweithredu fel canolfan allweddol ar gyfer teithiau rhanbarthol yn yr ardal. Mae’r gwelliannau arfaethedig yng ngorsaf drenau Pont-y-pŵl a New Inn yn cynnwys cyfleuster parcio a theithio newydd y ceid mynediad iddo oddi ar gefnffordd yr A4042, mynediad i’r platfformau sy’n cydymffurfio â’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd, a gwelliannau i gyfleusterau’r orsaf, gan gynnwys cyfleusterau ar gyfer beiciau.
Mae’r orsaf yn gyfnewidfa bosibl ar gyfer teithwyr o’r ‘Cwm Dwyreiniol’, yn cynnwys Blaenafon, Abersychan, Pont-y-pŵl a New Inn, ynghyd a theithwyr o Frynbuga ac ardal orllewinol Sir Fynwy. Bydd yr orsaf yn cefnogi’r gwaith datblygu arfaethedig cyfagos ym Mamheilad, sydd â dyraniad presennol o 1,800 o dai.
Mae’r prosiect yn cynnwys cytundeb rhwng Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, Llywodraeth Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.
Buddsoddiad a throsoledd cyllidol y rhaglen Metro Plus
£1.5m
Buddsoddiad Prifddinas-Ranbarth Caerdydd
£3.5m
Cyllid cyfatebol
£tbc
Trosoledd rhagweledig
Cam y broses fuddsoddi
Hyd yn hyn, mae’r orsaf wedi elwa ar gyllid gan Lywodraeth Cymru i wneud gwelliannau ffisegol a gwaith dylunio a datblygu ar gyfer creu cyfleuster parcio a theithio strategol â mynediad iddo oddi ar yr A4042(T) ynghyd â’r gwelliannau mynediad cysylltiedig. Mae’r cyntaf wedi cynnwys y gwaith o wella’r cyfleusterau i gerddwyr a beicwyr a chyfleusterau parcio, ac o ddarparu safle bws a man troi er mwyn darparu ar gyfer unrhyw gyfleusterau cyfnewidfa yn y dyfodol. Yn gysylltiedig â’r gwaith hwn, cyflawnwyd gwelliannau ar gyfer teithio llesol er mwyn sicrhau cysylltiad gwell rhwng yr orsaf a’r cyfleusterau ac ardal gyfagos.
Buddion a chanlyniadau disgwyliedig
Byddai gwelliannau yn y mynediad i’r gorsafoedd trenau a’r gwasanaethau bws, a seilwaith gwell yn y cyfnewidfaoedd ac ar safleoedd parcio a theithio, yn annog mwy o ddefnydd o drafnidiaeth gyhoeddus. Byddai’r cynllun yn darparu mwy o fynediad i gyfleoedd cyflogaeth, cyfleusterau addysg a gwasanaethau iechyd trwy’r gyfnewidfa rhwng bysiau a threnau. Mae nodau’r cynllun yn cynnwys ceisio sicrhau effaith gadarnhaol ar sefydliadau ac unigolion â nodweddion gwarchodedig.
Byddai’r cynllun yn annog pobl sy’n defnyddio ceir i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ac, yn sgil hynny, lleihau tagfeydd ar y rhwydwaith priffyrdd a gwella effeithlonrwydd amserau teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus, a dibynadwyedd yr amserau hynny, ar hyd y coridorau trafnidiaeth strategol, yn ogystal â lleihau’r perygl o ddamweiniau.
Câi hyn effaith gadarnhaol ar yr ansawdd aer lleol, ac ar fioamrywiaeth, treftadaeth a sŵn lleol.
Byddai darparu mannau gwefru ar gyfer cerbydau trydanol ar safle parcio a theithio yn ei gwneud yn bosibl i’r bobl hynny nad oes modd iddynt barcio oddi ar y stryd ystyried newid i ddefnyddio cerbydau trydanol.
Câi’r gwaith o adfywio tir segur ar gyfer y cyfleuster parcio a theithio effaith gadarnhaol hefyd ar y dirwedd a’r treflun.
Trwy ddarparu cyfleusterau parcio a theithio mewn lleoliadau strategol, byddai’n helpu i sicrhau bod safleoedd tir llwyd eraill ar gael ar gyfer datblygiadau tai a datblygiadau masnachol ac aml-ddefnydd.
Pethau allweddol y gellir eu cyflawni
Mae’r gwelliannau arfaethedig yng ngorsaf drenau Pont-y-pŵl a New Inn yn cynnwys cyfleuster parcio a theithio (â 200 o fannau parcio) y ceid mynediad iddo o gefnffordd yr A4042, mynediad i blatfformau sy’n cydymffurfio â’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd, a gwelliannau i gyfleusterau’r orsaf, gan gynnwys cyfleusterau ar gyfer beiciau. Câi mannau gwefru cerbydau trydanol eu darparu ar y safle parcio a theithio newydd.
Y partneriaid a phobl allweddol sydd ynghlwm
Mae’r sefydliadau canlynol yn bartneriaid yn y prosiect: