Pharmatelligence – Prosiect Livingstone
Beth yw'r prosiect?
Bydd y buddsoddiad yn cefnogi a hwyluso’r gwaith o fasnacheiddio a chyflwyno cynnyrch meddalwedd dadansoddol sydd wedi’i ddatblygu dros lawer o flynyddoedd (Livingstone). Wedi’i hadeiladu o amgylch data GIG, ac wedi’i gwneud yn ofalus o ffynonellau anhysbys i warchod hunaniaeth cleifion, bwriedir i feddalwedd Livingstone fod y gyntaf o’i math yn fyd-eang, gan awtomeiddio’r gwaith o ddadansoddi symiau mawr o ddata i gynhyrchu adroddiadau o ansawdd gwyddonol mewn amser real ar gyfer y GIG a defnyddwyr yn y diwydiant fferyllol. Bydd Livingstone yn darparu’r gallu i gynnal astudiaethau gwyddonol cymhleth mewn ychydig oriau o gymharu â’r misoedd y gall gymryd ar hyn o bryd.
Bydd Livingstone, a fydd yn destun cynllun cyflwyno yn raddol, yn cael ei drwyddedu fel meddalwedd fel gwasanaeth (SaaS) i ddefnyddwyr diwydiant o dan fodel tanysgrifio.
Rhannu:
Mae Pharmatelligence yn gwmni gwyddoniaeth data sefydledig sy’n gysylltiedig â gofal iechyd. Mae’n arbenigwr blaenllaw yn y gwaith o ddadansoddi gofal iechyd cyffredin, gan ddefnyddio cymysgedd soffistigedig iawn o beirianneg, gwyddorau data dynol a dadansoddeg data. Mae ganddo dros 500 o gyhoeddiadau gwyddonol dilys a adolygwyd gan gymheiriaid ac mae wedi’i gydnabod am Ragoriaeth Ymchwil. Fel sefydliad ymchwil sefydledig sydd wedi gwasanaethu y diwydiant fferyllol am 15 mlynedd, mae ei wasanaethau yn cael eu comisiynu ar lefel fyd-eang gan gwmnïau fferyllol mawr fel AstraZeneca, Pfizer Merck, Novatis a Sunoli Avensis.
Buddsoddi a throsoledd
£2m
Buddsoddiad Prifddinas-Ranbarth Caerdydd
£tbc
Trosoledd rhagweledig
Buddion a chanlyniadau disgwyliedig
Swyddi
Creu hyd at 35 o swyddi newydd gyda photensial i ymestyn ymhellach mewn swyddi medrus iawn, yn ddiogel at y dyfodol, â chyflog da. Gan fod y cwmni’n arweinydd agweddau yn ei ddisgyblaeth wyddonol, bydd y swyddi hyn yn cynnig cyfleoedd ar gyfer dadansoddwyr a gwyddonwyr cyfrifiadurol medrus sydd wedi gadael De Cymru gan fod cyfleoedd annigonol i ddychwelyd. Hefyd, bydd angen hyfforddi gweithwyr yn y dyfodol i’r lefelau uchaf mewn mathemateg, ystadegau, cyfrifiadura, deallusrwydd artiffisial, dysgu peirianyddol, epidemioleg ac economeg iechyd – y bydd y rhain oll yn helpu’r rhanbarth i ddatblygu ei ddyhead i fod yn ganolfan rhagoriaeth ar gyfer y sgiliau dymunol iawn hyn.
Cwmnïau deillio
Disgwylir i’r hyfforddiant o ansawdd arwain at gyfleoedd pellach am gwmnïau deillio – mae dau gwmni yng Nghaerdydd eisoes wedi’u creu gan bobl a hyfforddwyd drwy Pharmatelligence.
Yr economi ehangach
Mae’r buddion i’r economi ehangach yn sylweddol, gyda thebygolrwydd y bydd Pharmatelligence yn denu pobl i Dde Cymru o gwmnïau fferyllol byd-eang, gyda’r holl fuddion diferu i lawr ychwanegol a ddaw yn sgil hyn i’r economi leol a’r cysylltiadau ar gyfer eraill yn y sector hwn y bydd hyn yn eu darparu.
Yr agenda iechyd ehangach
Mae gan gynnyrch Livingstone hefyd y potensial i wneud gwahaniaeth amlwg i’r frwydr yn erbyn COVID-19 a phroblemau gofal iechyd byd-eang y dyfodol.
Cyflawniadau
- Penodi Bwrdd ac Aelod Bwrdd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd
- Darparu cynllun gwerthiant fesul cam, marchnata tanysgrifiadau blynyddol i Livingstone i gleientiaid presennol
- Cynyddu recriwtio yn unol â’r cynllun recriwtio