Y Ffowndri

Statws: Cyflenwi
Sefydlu ffowndri enfawr, arloesol a phwysig newydd ar gyfer lled-ddargludyddion cyfansawdd rhwng Casnewydd a Chaerdydd, fel angor rhanbarthol ar gyfer cynhyrchiad o’r radd flaenaf o led-ddargludyddion cyfansawdd.

Beth yw'r prosiect?

Mae’r prosiect lled-ddargludyddion cyfansawdd yn cynnwys cytundeb rhwng Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ac IQE plc, gwneuthurwr masnachol mawr o wafferi lled-ddargludyddion, sydd wedi’i leoli yn Ne-ddwyrain Cymru.

Cytunodd Cabinet Rhanbarthol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn 2017 i brynu adeilad ffatri yn Imperial Park yng Nghasnewydd a buddsoddi £37.9 miliwn, ochr yn ochr ag IQE, tuag at sefydlu ffowndri enfawr, arloesol a phwysig newydd ar gyfer  lled-ddargludyddion cyfansawdd rhwng Casnewydd a Chaerdydd, fel angor yn y rhanbarth ar gyfer cynhyrchiad o’r radd flaenaf o led-ddargludyddion cyfansawdd. Disgwylir i’r buddsoddiad ategu buddsoddiadau eraill yn y sector lled-ddargludyddion cyfansawdd yn lleol, gan gynnwys cyllid Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop ar gyfer Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd Prifysgol Caerdydd.

Nod y prosiect yw sicrhau buddsoddiad masnachol sylweddol mewn gweithgynhyrchu a datblygu ac i gefnogi datblygiad ‘clwstwr’ ehangach o weithgarwch lled-ddargludyddion cyfansawdd yn Ne Cymru, yn gysylltiedig ag arbenigedd academaidd ym Mhrifysgol Caerdydd a chrynodiad o gwmnïau cysylltiedig yn y gadwyn gyflenwi.

Rhannu:

Y bwriad hirdymor yw sicrhau buddsoddiad masnachol sylweddol mewn gweithgynhyrchu a datblygu ac i gefnogi datblygiad gweithgarwch ehangach ym maes lled-ddargludyddion cyfansawdd yn Ne Cymru, ac wrth wneud hynny, creu clwstwr ar flaen ymchwil a datblygu yn y maes hwn o dechnoleg, ac ar flaen cynhyrchiad lled-ddargludyddion cyfansawdd.

Rhagwelir y bydd y buddsoddiad yn helpu:

  • ysgogi buddsoddiad gwerth £375 miliwn gan y sector preifat
  • creu hyd at 2,000 o swyddi sgiliau uchel
  • creu cannoedd yn fwy o swyddi yn y clwstwr cadwyn gyflenwi ehangach

Mae’r cyfleuster yng Nghasnewydd yn eiddo i’r deg cyngor yn y Cabinet Rhanbarthol o dan Gyfrwng at Ddibenion Arbennig ‘CSC Foundry Limited’ ac mae’r lle yn cael ei brydlesu i IQE plc ar gyfer gweithgynhyrchu lled-ddargludyddion cyfansawdd a datblygu cymwysiadau. Bydd y Cyfrwng at Ddibenion Arbennig yn derbyn incwm rhent am 11 mlynedd cyn bod gan IQE opsiwn i brynu’r safle. Drwy’r cytundeb hwn, y disgwyliad yw y bydd arian y Gronfa Fuddsoddi yn cael ei ad-dalu ac yn cael ei wneud ar gael er mwyn ei ddefnyddio ar gynlluniau rhanbarthol eraill.

Beth yw lled-ddargludyddion cyfansawdd?

Lled-ddargludyddion, ar ffurf lled-ddargludyddion silicon a chyfansawdd, sydd wrth wraidd llawr o dechnolegau heddiw. Heb led-ddargludyddion, ni fyddai llawer o ddyfeisiau a chymwysiadau rydym yn dibynnu arnynt yn bodoli, ond nid yw'r deunyddiau hyn sydd wedi'u peiriannu'n atomig yn cael llawer o sylw ymysg y brandiau defnyddiwr terfynol rydym mor gyfarwydd â nhw.

 

Mae lled-ddargludyddion yn dechnoleg alluogi allweddol sy'n bwydo i mewn i gadwyni cyflenwi lluosog sy'n bwydo ystod eang o sectorau'r farchnad, gan gynnwys: awyrofod, technolegau gofal iechyd, awyrofod, diogelwch, data mawr a'r rhyngrwyd pethau, effeithlonrwydd ynni (cynhyrchu a defnyddio), roboteg, a chynhyrchion modurol.

Er mor aruthrol mae effaith silicon wedi bod ar ein bywydau, mae ganddo set sylfaenol iawn a chyfyngedig o briodweddau sy'n cyfyngu ei gymhwysiad mewn sawl maes technoleg newydd sy'n dod i'r amlwg, sy'n mynnu lefelau perfformiad hynod uchel ynghyd â synhwyro a galluoedd eraill.

Drwy beiriannu'n atomig yr adeiladwaith crisial sy'n cyfuno elfennau ar bob ochr o’r rheiny yng ngrŵp IV y tabl cyfnodol (e.e. grwpiau III a V), mae set newydd o ddeunyddiau lled-ddargludo wedi dod i'r amlwg sydd â phriodoleddau gwell ac sy'n cynnig gwelliannau perfformiad sylweddol dros rai silicon ar ei ben ei hun.

Mae'r lled-ddargludyddion cyfansawdd hyn yn galluogi prosesu cyflymder uchel dros 100 gwaith cynt na silicon, yn ogystal â chasgliad o briodoleddau eraill, gan gynnwys y gallu i allyrru a synhwyro golau, yr holl ffordd o'r isgoch, drwy'r gweladwy, ac i'r rhan uwchfioled o'r sbectrwm.

Ein gallu i fanteisio ar uwch-briodoleddau yr ystod lawn o ddeunyddiau lled-ddargludo fydd yn gyrru'r chwyldro digidol am genedlaethau i ddod.

Buddsoddi a throsoledd

£38.55m

Buddsoddiad Prifddinas-Ranbarth Caerdydd

stats-chevron

£6m

Cyllid cyfatebol

stats-chevron

£375m

Trosoledd rhagweledig

stats-chevron

Buddion a chanlyniadau disgwyliedig

  • Erbyn diwedd Ebrill 2020, roedd 70 swydd ychwanegol wedi’u creu yn uniongyrchol ar y safle o ganlyniad i fuddsoddiad yn y ffowndri. Mae 95% o’r swyddi hyn ar gyfer pobl sy’n byw o fewn rhanbarth Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.
  • Mae 545 o swyddi wedi’u diogelu o ganlyniad i’r buddsoddiad.
    • 156 yn IQE, o fewn ei weithrediadau oedd yn bodoli eisoes yn Llaneirwg yng Nghaerdydd.
    • 389 o swyddi wedi’u diogelu yn Newport Wafer Fab, uned creu wafferi silicon dan berchnogaeth breifat sydd wedi’i lleoli tua milltir o’r safle yn Imperial Park.
    • 8 o gyfleoedd prentisiaeth a grëwyd yn ystod cam adeiladu’r prosiect.
  • Mae ecosystemau arloesedd lleol wedi’u gwella.
  • Mae cynnydd wedi bod yn nifer y busnesau sy’n arloesol weithredol (h.y. yn y sector lled-ddargludydd cyfansawdd ehangach).
  • Mae Llywodraeth y DU wedi dyfarnu £25.4 miliwn mewn cyllid tuag at brosiect £43.7 miliwn CSConnected o fewn y clwstwr lled-ddargludydd cyfansawdd. Mae CS Connected wedi denu prosiectau cysylltiedig â’r clwstwr o werth £124 miliwn gyda £56 miliwn pellach o brosiectau ar y gweill. Am fwy o wybodaeth am CSConnected, cliciwch yma: https://csconnected.com/
  • Mae CSCatapult wedi symud i mewn i’r Ffowndri. Mae CSCatapult yn canolbwyntio ar helpu diwydiant yn y DU i fanteisio ar welliannau mewn technolegau lled-ddargludyddion cyfansawdd a dod â bywyd i gymwysiadau. Am fwy o wybodaeth am CSCatapult, cliciwch yma: https://csa.catapult.org.uk/

Y partneriaid a phobl allweddol sydd ynghlwm

Pwy sy’n cymryd rhan?

Mae’r prosiect yn cynnwys cytundeb rhwng Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ac IQE plc.

IQE yw’r arweinydd byd-eang yn y gwaith o ddylunio, gweithgynhyrchu a chyflenwi cynhyrchion a gwasanaethau wafferi lled-ddargludydd uwch. Ei weledigaeth yw cynnal a thyfu ei safle sefydledig fel y lle gorau am arbenigedd mewn lled-ddargludyddion cyfansawdd.

Am fwy o wybodaeth am IQE, cliciwch yma.

Bwrdd y Ffowndri

Er mwyn cyflawni’r prosiect, mae Cabinet Rhanbarthol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi sefydlu Cyfrwng at Ddibenion Arbennig (CSC Foundry Ltd) i gaffael yr adeilad, rheoli’r brydles, a chefnogi’r gwaith o gyflawni’r prosiect lled-ddargludyddion cyfansawdd.  Mae’r Bwrdd Cyfarwyddwyr yn gyfrifol am sicrhau bod y prosiect yn cydymffurfio â’r fframwaith cyfreithiol a grëwyd gan y Cytundeb Rhanddeiliaid a chytundebau cyfreithiol cysylltiedig.

Bydd Bwrdd CSC Foundry yn ymddwyn fel ysgogwr i sicrhau bod y prosiect lled-ddargludyddion cyfansawdd yn cyflawni ei allbynnau arfaethedig ac o fewn cwmpas gwaith y prosiect, lle bo’n bosibl, i gefnogi ei ganlyniadau bwriadedig:-

Dyletswyddau rheolaidd y bwrdd yw:

  • Monitro’r cyflawni amserol o’r prosiect lled-ddargludyddion cyfansawdd yn erbyn cerrig milltir y cytunwyd arnynt
  • Nodi, monitro a chefnogi datrysiadau o risgiau a phroblemau
  • Noddi a chefnogi adolygiadau sicrwydd y prosiect, gan gymeradwyo a/neu sicrhau camau gwella lle bo angen
  • Awdurdodi dogfennaeth allweddol – cynlluniau busnes blynyddol, cyllidebau blynyddol, adroddiadau diweddaru, adroddiadau ariannol, a cheisiadau am randaliadau cyllid

Y newyddion diweddaraf ar y prosiect

There are no project updates at present. Please check back later.