Safonau'r Gymraeg
Beth yw Safonau’r Gymraeg?
Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yw’r ddeddfwriaeth a greodd safonau’r Gymraeg.
Mae safonau’r Gymraeg yn hybu ac yn hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg, ac yn sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg yng Nghymru. Mae’r Mesur hefyd yn gwneud y Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru.
Cyd-bwyllgorau Corfforaethol a Safonau’r Gymraeg
Mae Cyd-bwyllgorau Corfforaethol yn ddarostyngedig i Safonau’r Gymraeg yn yr un modd â’u cynghorau cyfansoddol a sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus eraill yng Nghymru.
Diwygiodd Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforaethol (Diwygio Atodlen 6 i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011) 2021 Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011, gan ychwanegu Cyd-bwyllgorau Corfforaethol at y rhestr o gyrff a chategorïau o gyrff y mae’n rhaid iddynt gydymffurfio â’r safonau.
Mae’r safonau’n gosod disgwyliadau clir ar sut mae’n rhaid i Gyd-bwyllgorau Corfforaethol ddarparu gwasanaethau yn Gymraeg i’n partneriaid, rhanddeiliaid a’r cyhoedd yn ogystal â sut mae’n rhaid i ni hybu’r defnydd o’r iaith drwy ein gwasanaethau.
Hysbysiad Cydymffurfio
Mae’r Safonau’r Gymraeg y mae hi’n ofynnol i Gyd-bwyllgor Corfforedig De-ddwyrain Cymru eu bodloni wedi’u rhestru yn ein Hysbysiad Cydymffurfio a gyhoeddwyd ar 24 Ebrill 2024.
Pa weithgareddau mae’r safonau’n effeithio arnynt?
Mae 176 o safonau yn cwmpasu ystod eang o weithgareddau, pob un wedi’u grwpio yn y pum maes allweddol:
- Safonau cyflenwi gwasanaethau
- Safonau llunio polisi
- Safonau gweithredu
- Safonau hybu
- Safonau cadw cofnodion
Nid oes rheidrwydd ar Gomisiynydd y Gymraeg i’w gwneud yn ofynnol i’r Cyd-bwyllgor Corfforaethol gydymffurfio â phob safon, ond bydd mwyafrif y safonau yn gymwys.
Ymhellach, mae gan Gomisiynydd y Gymraeg ddyletswydd statudol i fonitro cydymffurfiaeth sefydliadau â Safonau’r Gymraeg, ac ymchwilio i gŵynion ac achosion o dor-cydymffurfiaeth. Mae o fewn ei bŵer i osod camau gorfodi, camau cyfreithiol a dirwyon.
I gael rhagor o wybodaeth am safonau’r Gymraeg yn y Cyd-bwyllgor Corfforaethol, cysylltwch â Feedback@cardiffcapitalregion.gov.uk