Ynghylch Prifddinas-Ranbarth Caerdydd

Creu llwyddiant cynaliadwy a chymunedau sy’n ffynnu yn Ne-ddwyrain Cymru

Trosolwg​ o Brifddinas-Ranbarth Caerdydd

Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn cynnwys deg ardal awdurdod lleol yn Ne-ddwyrain Cymru, sef Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, Torfaen, a Bro Morgannwg. Mae ganddi boblogaeth o 1.5 miliwn, sef bron hanner poblogaeth Cymru gyfan. Mae’n rhanbarth amrywiol sy’n cynnwys dwy ddinas, sef Caerdydd a Chasnewydd, amrediad o drefi marchnad, bro ddiwydiannol Cymoedd y De, cymunedau gwledig a llain arfordirol.

Bu gwaith adfywio a buddsoddiad sylweddol yn y rhanbarth dros yr ychydig ddegawdau diwethaf, i ailddatblygu ardaloedd o ddiwydiant trwm a chreu parciau busnes, tai a mentrau hamdden newydd. Mae prosiectau wedi cynnwys gwaith adfywio Bae Caerdydd ac ailgyflwyno gwasanaeth rheilffordd i deithwyr i Lynebwy, ynghyd â gwaith seilwaith ffyrdd sylweddol.

ccr-map

Ein nodau

Cysylltiedig.

Cysylltu pobl, eu huchelgeisiau a'r cyfleoedd i wireddu eu gwir botensial. Meithrin yr amodau gorau ar gyfer sicrhau llwyddiant busnesau a chydlyniant cymunedol, trwy fuddsoddiadau a dargedir ym maes cyfathrebu digidol o'r radd flaenaf. Creu seilwaith trafnidiaeth integredig arloesol, sy'n cysylltu mannau fforddiadwy a hygyrch i fyw, gweithio a chwarae.

Cystadleuol.

Sbarduno buddsoddiad mewn parhad, gan roi bywyd i glystyrau diwydiannol allweddol. Partner y gellir ymddiried ynddo sy'n galluogi cwmnïau i arloesi a gwireddu eu llawn botensial. Lluniwr hybiau o bwys economaidd, gan greu effaith lluosydd sy'n cynnal cadwynau cyflenwi lleol a rhanbarthol yn ogystal â'r economi sylfaenol ehangach.

Gwydn.

Canolbwynt ar gyfer creu'r amodau ar gyfer sicrhau bod ein busnesau a'n pobl yn y sefyllfa orau i wynebu'r dyfodol. Ymddwyn fel carreg sylfaen i helpu'r rhanbarth i addasu, i feddwl o'r frest, ac i oresgyn cyfnodau o dyrfedd economaidd neu aflonyddwch cymdeithasol.

Mae’r rhanbarth o bwys economaidd uchel i Gymru gan ei fod yn gyfrifol am tua 50% o gyfanswm allbwn economaidd economi Cymru, ac felly mae llwyddiant economi Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn ffactor sylweddol ym mherfformiad economaidd Cymru gyfan. O gofio’i dreftadaeth ddiwydiannol, mae ganddo nifer o fusnesau gweithgynhyrchu angori yn y sectorau awyrofod, amddiffyn a modurol. Mae’n gartref i 50,000 o fusnesau lleol.

Yn ogystal, mae ei sylfaen fusnesau yn gynyddol amrywiol, a cheir clystyrau busnes cystadleuol yn dod i’r amlwg mewn meysydd yn cynnwys seiber, lled-ddargludyddion cyfansawdd, gwyddorau bywyd, a’r diwydiannau creadigol. Mae’n gartref i dair prifysgol, ac yn meddu ar bobl fedrus; mae gan gyfran uchel o’r boblogaeth gymwysterau ar lefel gradd neu gyfatebol. Mae prif ddinas fywiog wrth ei wraidd sydd â chyfleusterau diwylliannol a chwaraeon rhagorol, mae amgylchedd amrywiol o arfordir, coedwigoedd a pharciau yn nodweddiadol ohono, ac mae adroddiadau hysbys ynghylch lefel uchel iawn y safon byw a llesiant y ceir yno.

Ein priodoleddau

Uchelgeisiol

Ein nod yw manteisio ar ein hunaniaeth unigryw a'n gallu i hybu economi Cymru. Mae'r Brifddinas-Ranbarth yn un balch o fewn y Deyrnas Unedig ac mae hynny'n cynnig llwyfan ar gyfer bod yn uchelgeisiol.

Cydweithredol

Mae cydweithio'n digwydd ar draws ffiniau'r sector cyhoeddus, y sector preifat, sefydliadau addysgol a'n cymunedau er mwyn gwneud y gorau o'r cyfleoedd y mae ein maint cyfunol yn eu cynnig, er budd pawb.

Hyderus

Mae enw da'n perthyn i'r rhanbarth fel rhywle gwych i fyw, gweithio a chwarae. Mae'r bobl sy'n byw yma'n falch o'n safon byw, ein diwylliant, ac o'r harddwch naturiol sydd ar drothwy ein drysau.

Allblyg

Mae'r rhanbarth yn ceisio'n weithredol i ddenu pobl, busnesau a mewnfuddsoddiad o farchnadoedd byd-eang, yn ogystal ag o rannau eraill o'r DU.

Sectorau blaenoriaeth

Mae gennym wyth sector blaenoriaeth y mae gennym gryfderau cymharol a manteision cystadleuol ynddynt.

Lled-ddargludyddion Cyfansawdd

Mae lled-ddargludyddion cyfansawdd yn darparu’r dechnoleg sylfaenol sydd y tu ôl i’r rhan fwyaf o nwyddau a gwasanaethau uwch-dechnolegol heddiw, gan gynnwys ffonau clyfar, synwyryddion, a dyfeisiau cyfathrebu ffeibr optig.

Technoleg Ariannol

Y tu allan i Lundain, Cymru sydd â’r economi ddigidol sy’n tyfu cyflymaf, ac mae twf y sector cyllid a phroffesiynol yng Nghymru wedi arwain at ddiwydiant technoleg ariannol sy’n ffynnu.

Seiberddiogelwch a dadansoddeg

Mae seiberddiogelwch yn un o bileri craidd strategaeth ryngwladol Llywodraeth Cymru, ac yn un o sectorau blaenoriaeth y Prifddinas-Ranbarth o safbwynt twf economaidd.

Deallusrwydd Artiffisial

Mewn sawl ffordd, mae deallusrwydd artiffisial yn sylfaenol i’r gwaith trawsnewidiol sy’n mynd rhagddo mewn llawer o’r sectorau blaenoriaeth eraill.

Economi Greadigol

Cydnabyddir bod Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn un o ganolfannau cynhyrchu cyfryngau mwyaf y DU y tu allan i Lundain.

Gwyddorau Bywyd

Mae’r sector gwyddorau bywyd yn anferth, ond ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd ceir ffocws penodol ar ddyfeisiau a diagnosteg feddygol.

Peirianneg trafnidiaeth

Mae trafnidiaeth gyhoeddus well yn sylfaenol i dwf economaidd cynaliadwy, ac mae hefyd yn cynnig buddion gwirioneddol i bobl.

Ynni a'r amgylchedd

Ystyrir bod defnyddio ynni â charbon isel, a chreu’r amodau ar gyfer trawsnewid i economi a chymdeithas garbon niwtral ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd, yn alluogwyr allweddol o safbwynt sicrhau adfywio economaidd, ac maent yn hanfodol i’r broses o wella iechyd a llesiant ein cymunedau.

Meysydd ffocws allweddol

Mae’r rhain yn cynrychioli meysydd galluogi allweddol sy’n hanfodol ar gyfer cyflawni ein huchelgais o fod yn gysylltiedig, yn gystadleuol ac yn wydn.

Sgiliau

I gystadlu’n effeithiol yn economi fyd-eang heddiw, mae’n hanfodol bwysig cael hyder mewn gweithlu hyfedr, hyblyg a dibynadwy.

Digidol

Mae darparu gwasanaethau digidol o’r radd flaenaf yn rhoi sbardun ar gyfer arloesi a chreu ffrydiau busnes newydd, sydd, yn eu tro, yn arwain at dwf economaidd, cynhwysiant cymdeithasol a chydlyniant cymdeithasol.

Safleoedd ac eiddo

Mae tai da yn un o’r elfennau allweddol sy’n pennu safon byw, ond i lawer o bobl ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd, mae cael cartref modern o ansawdd da yn angen nad yw wedi’i ddiwallu.

Arloesi

Arloesedd yw conglfaen ffyniant a thwf economaidd parhaus. Yn ôl adroddiad gan McKinsey, mae 84% o swyddogion gweithredol yn dweud bod eu llwyddiant yn y dyfodol yn dibynnu ar arloesi.

Y newyddion diweddaraf yn y rhanbarth

- Mae IIC yn gwneud buddsoddiad cyntaf yn AMPLYFI, y busnes Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol a leolir yng Nghaerdydd - Disgwylir rhagor o fuddsoddiadau yn y misoedd i ddod.

Dogfennau allweddol

Papurau ymchwil

Beth yw'r Fargen Ddinesig?