Cludiant Rhanbarthol
Amdanom ni
Mae CCR yn gorff rhanbarthol (a elwir hefyd yn Gydbwyllgor Corfforaethol) sy’n cynnwys y 10 Awdurdod Lleol ar draws De-ddwyrain Cymru, ac mae wedi bod yn gweithio’n llwyddiannus fel partneriaeth ers 2017.
Gellir canfod rhagor o wybodaeth am bwy ydym ni yma.
Mae ein buddsoddiadau a’n gweithgarwch ehangach eisoes wedi creu a diogelu 3,000+ o swyddi, cefnogi 200+ o fusnesau a buddsoddi £734m+ ym Metro De Cymru.
Ein gorchwyl yw gwella ansawdd bywyd i bobl leol trwy fuddsoddi mewn pobl, trafnidiaeth, busnesau, cartrefi a chymunedau. Gyda chyfrifoldebau newydd am drafnidiaeth, cynllunio a llesiant economaidd strategol, rydym ar fin cyflawni hyd yn oed mwy.
Ynglŷn â’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol
Mae Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 wedi rhoi pwerau statudol i CCR, gan alluogi dull mwy integredig o lunio a chyflawni polisïau. Felly, mae CCR yn datblygu Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol ar gyfer 2026 – 2031 a fydd yn helpu i fynd i’r afael â materion trafnidiaeth lleol a rhanbarthol nawr ac yn y dyfodol, drwy ddarparu’r fframwaith ar gyfer penderfyniadau ar fuddsoddiad yn y dyfodol.
Mae ein system drafnidiaeth yn rhan annatod o bob agwedd ar ein bywydau, gan ddylanwadu ar sut rydym yn cael mynediad at addysg, gwaith, gofal iechyd, gwasanaethau a hamdden, ac yn pennu sut y caiff ein nwyddau eu darparu.
Y tu hwnt i symud pobl yn unig, nod ein CTRh yw ysgogi twf economaidd, mynd i’r afael â materion cymdeithasol a chydraddoldeb, a gwella cydnerthedd ac addasu i newid yn yr hinsawdd.
Nid yw’r CTRh yn ymwneud â thrafnidiaeth yn unig; mae’n fodd i sicrhau economi gryfach, decach a gwyrddach.
Ein Gweledigaeth
Mae CCR yn Rhanbarth bywiog ac amrywiol sydd wrth wraidd cymdeithasol, gwleidyddol ac economaidd Cymru. Gyda phoblogaeth o tua 1.5m o bobl ac economi o £38.4bn, mae CCR yn cynrychioli tua hanner poblogaeth ac economi’r genedl.
Ein gweledigaeth yw sefydlu rhwydwaith trafnidiaeth effeithlon, fforddiadwy, carbon isel sy’n gwella ansawdd bywyd, yn meithrin ffyniant ar y cyd, ac yn cefnogi rhanbarth carbon niwtral, lle mae cerdded, beicio ac olwynion yn cael eu ffafrio ar gyfer teithiau byrrach a’r rhan fwyaf o gerbydau’n cael eu datgarboneiddio.
Drwy’r CTRh, rydym am gefnogi nodau strategol CCR a chreu rhanbarth sydd:
- Yn gystadleuol: Yn rhoi hwb i’n heconomi ac yn creu swyddi
- Wedi’i gysylltu: Cysylltu cymunedau, gwasanaethau, a busnesau, gan gynnwys trafnidiaeth rheilffordd, awyr a môr a
- Yn gydnerth: Yn paratoi ar gyfer dyfodol cynaliadwy, sero net, gan fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd ac yn sicrhau mynediad teg i bawb.
Ein Nodau ar gyfer y Rhanbarth
Mae Transport for CCR wedi’i gynllunio i ddarparu buddion diriaethol a fydd yn trawsnewid y ffordd yr ydym yn byw ac yn teithio. Drwy weithredu’r mentrau a gynigir yn y Cynllun Cyflawni Trafnidiaeth Rhanbarthol (RTDP), ein nod yw creu rhwydwaith trafnidiaeth sydd nid yn unig yn effeithlon ac yn ddibynadwy ond sydd hefyd yn gynhwysol ac yn gynaliadwy.
Dyma beth rydym yn anelu at ei gyflawni:
- Rhwydwaith trafnidiaeth mwy hygyrch, fforddiadwy, diogel a chroesawgar i bawb.
- Rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus effeithlon a dibynadwy sy’n fwy cystadleuol gyda theithiau ceir preifat, o ran cost ac amser.
- Integreiddio rhwng cynllunio trafnidiaeth a chynlluniau strategol eraill, gan flaenoriaethu datblygiadau newydd mewn lleoliadau cynaliadwy a hygyrch.
- Gwell defnydd o’n rhwydwaith ffyrdd presennol a lleihau tagfeydd.
- Defnyddio technoleg i reoli’r galw cynyddol ar y system yn well.
- Cysylltu cyrchfannau twristiaeth allweddol â dulliau trafnidiaeth cynaliadwy.
- Gwella ansawdd aer.
- Sicrhau bod ein rhwydwaith trafnidiaeth yn gallu gwrthsefyll tywydd garw.
Gallwch weld y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol llawn yn yr adran lawrlwythiadau isod.
Cynllun Cyflawni Trafnidiaeth Rhanbarthol
Mae’r Cynllun Cyflawni Trafnidiaeth Rhanbarthol (RTDP) yn amlinellu ymyriadau allweddol i gyflawni amcanion y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol (RTP) ac yn cyfrannu tuag at Strategaeth Drafnidiaeth Cymru (WTS) ar y lefel ranbarthol. Mae’r ymyriadau hyn yn canolbwyntio’n bennaf ar y pum mlynedd nesaf (hyd at 2031), gyda chynigion cyfnod hwy i sicrhau cyllid a datblygiad parhaus.
Mae’r Cynllun Cyflawni Trafnidiaeth Rhanbarthol wedi’i ddatblygu gan ddefnyddio gwybodaeth fanwl am y prosiect i gynorthwyo’r broses o flaenoriaethu, gan asesu:
Modd o Gyflawni – Dichonoldeb ac amserlen weithredu.
Fforddiadwyedd – Cyllid sydd ar gael a pha mor effeithiol o ran cost.
Rheoli Rhaglen – Sicrhau cysoni â nodau strategol.
Gwêl 2026 cynllun mawr yn dechrau yn y rhanbarth; y rhain yw: Cyfnewidfa Caerffili, sy’n uwchraddio’r strwythur presennol ar gyfer teithio ar reilffordd a bysiau; a Ffordd Gyswllt Porth Cynon, ychydig oddi ar ffordd Blaenau’r Cymoedd, a ariannir yn rhannol gan yr Awdurdod Lleol yn Rhondda Cynon Taf.
Yn ychwanegol, mae yna welliannau sylweddol i gadernid y ffyrdd, mae yna ddatblygu a darparu prosiectau trafnidiaeth cynaliadwy, uwchraddio diogelwch ffyrdd, a hefyd rhaglenni addysg, hyfforddiant a newid ymddygiad a wneir ledled y rhanbarth.
I weld y Cyflawni Trafnidiaeth Rhanbarthol, cliciwch yma , os gwelwch yn dda.