Arloesi o’r Tu Mewn

Ysgogwch bŵer syniadau sydd eisoes y tu mewn i’ch cwmni. 

Yn aml, daw’r arloesiadau mwyaf trawsnewidiol oddi wrth y rheiny sy’n adnabod eich busnes orau – eich pobl eich hun.  Cynlluniwyd y Rhaglen ‘Arloesi o’r Tu Mewn’ i helpu cwmnïau a sefydliadau yn rhanbarth Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i harneisio creadigrwydd mewnol ac i rymuso unigolion i ysgogi newid effeithiol.  

P’un a ydych yn arweinydd busnes sydd eisiau sbarduno arloesedd neu’n weithiwr gyda syniad beiddgar, dyma’ch cyfle i droi potensial yn gynnydd.  I greu arloesi a all helpu busnesau lleol i dyfu ac i greu buddion go iawn ar gyfer y rhanbarth. 

Pam arloesi o’r tu mewn? 

Pan ydych yn arloesi o’r tu mewn: 

  • Rydych yn datblygu doniau cartref ac yn cryfhau’ch sylfaen sgiliau mewnol. 
  • Rydych yn gallu llunio’r broses a’i gysoni â blaenoriaethau’ch busnes.   
  • Rydych yn arwain eich cwmni mewn cyfeiriadau newydd trwy ysgogi potensial cêl.  
  • Rydych yn gwella boddhad gweithwyr trwy roi perchnogaeth ar arloesi i staff.   
  • Rydych yn gostwng costau ac yn cynyddu elw trwy gymell datrysiadau doethach, mwy effeithlon. 
  • Rydych yn paratoi am y dyfodol gyda thîm mwy ystwyth, sy’n flaengar ei fryd. 

Beth yw’r cyfle? 

Dros bedwar mis, byddwn yn eich galluogi i fanteisio hyd yr eithaf ar y cyfleoedd arloesi sydd eisoes yn eich cwmni trwy: 

  •  Amser dylunio dwys i ddatblygu cynnyrch newydd, gwasanaeth neu i ailgloriannu prosesau allweddol.  
  • Cynorthwyo i feithrin diwylliant intrapreneuraidd sy’n canfod cyfleoedd ac sy’n datrys problemau’n greadigol.   
  • Datblygu sgiliau i fagu’ch galluoedd arloesi ac arwain.  
  • Mewnwelediadau oddi wrth intrapreneuriaid ac arloeswyr profiadol ledled sectorau.   
    Tyfu rhwydwaith o arloesedd o’r tu mewn i’ch cwmni. 
  • Cymorth unswydd bwrpasol i dywys eich syniadau i realiti ac i gyflymu arloesedd. 

 Eich buddsoddiad yw’ch amser, eich syniadau a’ch egni.  Y chi sy’n llunio’r adenillion. 

Beth a gynigir?

Ymunwch â rhaglen drwythol sy’n gyforiog o offer ymarferol a chymorth arbenigol: 

Gwersyll Arloesi

cydweithredu, creu a gwthio ffiniau.

Triawd

profi a mireinio syniadau gyda chefnogaeth gan gymheiriaid.

2

ddiwrnod dwys o ddatblygu sgiliau.

Cymorth cymhorthfa ar alwad

mi gewch arweiniad pan fo arnoch ei angen fwyaf.

8

dosbarth meistr ynglŷn â sut i arloesi o’r tu mewn.

1:1

un i un i finiogi’ch dull gweithredu.

Adeiladu’ch rhwydweithiau

Mae arloesi’n ffynnu wrth gydweithredu.  Bydd ein rhaglen yn eich cysylltu â chwmnïau o’ch rhanbarth ac yn eich cyflwyno i rwydweithiau ehangach, gan eich helpu i: 

  • Rhannu mewnwelediadau a phrofiadau. 
  • Dysgu oddi wrth lwyddiannau a methiannau eraill. 
  • Ysgogi rhwydweithiau mewnol o fewn eich cwmni’ch hun i fagu momentwm ar gyfer eich syniadau. 

Beth Nesaf?

Mae’r proses i ymgeisio yn syml: 

  1. Diffiniwch eich syniad neu’ch cyfle – pa arloesedd y dymunwch ei wthio ymlaen? 
  1. Ffurfiwch dîm dechreuol – dowch â 2 o bobl ynghyd sy’n barod i ysgogi newid: noddwr mewnol a rhywun i arwain y syniad neu’r arloesedd. 
  2. Ymgeisiwch — cwblhewch y ffurflen neu recordiwch fideo byr yn gwerthu’ch syniad.   

Dyddiadau Allweddol: 

  • Gweithrediad y rhaglen: Fehefin – Medi 2025. 
  • Dyddiadau penodol: 17 Fehefin, 16 Orffennaf, 18 Fedi. 

Ymrwymiad Amser: 

  • Pum niwrnod dros 5 mis – yn ogystal â pha amser ychwanegol bynnag y dewiswch ei fuddsoddi i wneud eich arloesedd yn llwyddiant. 
  • Mae cymryd rhan yn hyblyg, ond mae’n rhaid i’ch tîm fynychu pob gweithgaredd craidd. 

Prif Bartneriaid

Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi ffurfio partneriaeth â’r Ganolfan Arweinyddiaeth i gynnig Arloesi o’r Tu Mewn.  Dan arweiniad Andrew Harrison ac Anna Mouser, gyda chymorth gan entrepreneuriaid ac arloeswyr ledled y Deyrnas Unedig ac Ewrop, bydd y rhaglen yn cynnig arbenigedd dwys a mewnwelediad ymarferol i bob cam o’r daith. 

Gweithiodd Andrew ac Anna gyda busnesau mawr a bach, gan eu helpu i fynd i’r afael â heriau ‘byd go iawn’ gyda meddylfryd arloesol:  

  • Adrannau gweithgynhyrchu’n ymaddasu i dechnoleg ddigidol a disgwyliadau newidiol buddsoddwyr. 
  • Cwmnïau cyfryngau bychain i ffurfio consortia cynnwys i ymateb i wasanaethau ffrydio. 
  • Busnesau lletygarwch sy’n colynnu i oresgyn problemau cadw gafael ar staff ar ôl Brexit. 
  • Mentrau cydweithredol sy’n troi’n organig i gynyddu’u cyfran o’r farchnad. 
  • Cyfrifyddion yn ailgloriannu’u modelau busnes trwy dechnoleg newydd.  
Skip to content