Prosiect Adfywio Safle Glofa’r Tŵr gan Zip World

Statws: Cyflwyno
Creu cyfleuster twristiaeth antur sy’n efelychu’r model Zip World llwyddiannus sy’n weithredol ym Mhenrhyn.
Zip World

Beth yw'r prosiect?

Yr amcan yw creu cyfleuster twristiaeth antur sy’n efelychu’r model Zip World llwyddiannus sy’n weithredol ym Mhenrhyn.

Nod Zip World yw gwneud yr hyn dros gymunedau glo De Cymru y maent eisoes wedi’i wneud dros ddiwydiant llechi Gogledd Cymru, a chreu anturiaethau sy’n denu twristiaeth a chyfleoedd ehangach i’r ardal i wella a chynnal yr economi leol. Mae’r prosiect arfaethedig yn cynnwys pum cam datblygu dros gyfnod o bum mlynedd, a bydd yn gofyn am fuddsoddiad cyfalaf o dros £7.4 miliwn. Yn ystod y pum mlynedd cyntaf o fod yn weithredol, disgwylir y bydd safle Glofa’r Tŵr yn croesawu dros filiwn o reidwyr.

Rhannu:

Mae Zip World yn gwmni mawr sy’n tyfu. Mae’n gwmni sydd wedi’i gynnwys yn Fast Track 100 gan The Sunday Times, ac mae’n frand cenedlaethol a rhyngwladol adnabyddus sydd am ehangu ac ychwanegu safle sylweddol i’w bortffolio gweithredol o brofiadau twristiaeth a thwristiaeth antur ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd.

Buddsoddi a throsoledd

£4.4m

Buddsoddiad Prifddinas-Ranbarth Caerdydd

stats-chevron

£3m

Cyllid cyfatebol

stats-chevron

£tbc

Trosoledd rhagweledig

stats-chevron
Zip World

Buddion a chanlyniadau a ddisgwylir ​

  • Mae’r prosiect hwn yn adeiladu ar frand sefydledig a chysyniad llwyddiannus o fewn y sector hamdden a thwristiaeth. Rhwng 2013 a 2018, cyfrannodd Zip World £251 miliwn a mwy i economi leol Gogledd Cymru. Gan ystyried y ceir mynediad rhwyddach i amrediad ehangach o farchnadoedd twristiaeth ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd na’r hyn sydd ar gael i safleoedd presennol Zip World, mae’n rhesymol disgwyl buddion ar raddfa hyd yn oed fwy.
  • Bydd yn creu o leiaf 20 swydd amser llawn a 60 o swyddi ychwanegol yn ystod adegau prysur y tymor.
  • Rhagwelir derbyn miliwn o ymwelwyr dros bum mlynedd.
  • Bydd yn creu cyrchfan twristiaeth mawr newydd gyda buddion economaidd sylweddol ar gyfer amrediad eang o fusnesau a chymunedau eraill. Ar safle Chwarel Penrhyn, mae 63% o gwsmeriaid yn ymweld fel rhan o daith hwy, arhosodd 75% o’r holl ymwelwyr dros nos am o leiaf un noson, ac roedd 80% am ddychwelyd o fewn blwyddyn.
  • Bydd yn cynnal ac yn adfywio safle eiconig Glofa’r Tŵr, a fydd â phentref â chanolfan ymwelwyr a’r seilwaith cysylltiedig.

Pethau allweddol y gellir eu cyflawni

Cynllun cyflwyno fesul cam

Yn ystod Cam 1 (2020/21), disgwylir y bydd y prosiect yn cyflwyno’r cyfleusterau canlynol:

Pentref o gynwysyddion

Er mwyn ei gwneud yn bosibl i’r gweithgareddau fynd rhagddynt, mae’n ofynnol cyflwyno cyfleusterau i’r safle gan nad yw’n bosibl byw na gweithio yn yr adeiladau sydd yno ar hyn o bryd, a byddai angen buddsoddiad sylweddol er mwyn codi eu safon i lefel dderbyniol. Felly caiff adeileddau dros dro, sef cynwysyddion masnachol, eu trosi a’u defnyddio i greu pentref o gynwysyddion. Bydd y pentref yn cynnwys derbynfa a fydd yn gwerthu tocynnau a nwyddau, toiledau, safle gwerthu bwyd a diod, siop Revl, ystafell loceri, ardal ar gyfer gosod cyfarpar ar gwsmeriaid a’i dynnu oddi arnynt, a swyddfa/ystafell staff. Dewiswyd defnyddio cynwysyddion oherwydd y gellir cynyddu eu nifer a’u haddasu drwy gydol oes y safle, ac oherwydd eu bod yn gweddu i olwg diwydiannol y safle ar yr un pryd.

Ffenics

Dyma brofiad gwifren wib sy’n cynnwys dwy linell wib ar wahân sydd â phedair llinell yr un. Yn yr un modd â Titan, bydd y profiad gwib yn un a wneir wrth eistedd, a rhagwelir y bydd cwsmeriaid yn teithio tua 40 milltir yr awr, a byddai hynny’n golygu mai’r Ffenics fyddai’r llinell wib gyflymaf i lawr safle yn y byd.

Trac Certi ‘Cowstio’ Glofa’r Tŵr

Cyflwynwyd unig lwybr Alpine Coaster y DU i Fforest Zip World yn 2017, ac yn gyflym datblygodd i fod yn antur fwyaf poblogaidd y safle. Wedi’i chydnabod fel reid gynhwysol ar gyfer amrediad eang o gwsmeriaid, mae’r Coaster wedi dod yn gysylltiedig â theuluoedd sy’n chwilio am antur hygyrch. Mae’r cynnig yn Zip World Tower yn wahanol i’r hyn a gynigir gan yr Alpine Coaster yn Fforest gan mai dyma fydd ond yr ail drac certi cowstio a bwerir yn y byd, sy’n ddyluniad sy’n defnyddio egni wedi’i storio ynghyd â disgyrchiant i yrru’r cwsmeriaid o gwmpas y trac. Bydd hwn yn rhywbeth na fu ei fath o’r blaen yn y DU a bydd yn cynnig profiad unigryw.

Y newyddion diweddaraf ar y prosiect

Yn dilyn buddsoddiad sylweddol o £4.4m gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd, mae Zip World, sy'n enwog yng Ngogledd Cymru am fod â’r llinell sip gyflymaf yn y byd, wedi dod â'u brand unigryw o dwristiaeth antur i ganol gwlad fynyddig y Rhigos. Gyda'r nod o roi hwb i economi De Cymru, wrth ddefnyddio'r dirwedd drawiadol i adfywio’r eicon hwn o hanes glofaol y rhanbarth, agorodd y safle i'r cyhoedd ar 26 Ebrill. Yn awyddus i weld y trawsnewidiad rhyfeddol hwn a chael profiad o Zip World ein hunain, fe gwrddon ni ag Ellie Watkins, sy'n rheoli'r holl weithgarwch marchnata lleol, a'r tîm ehangach i ddeall mwy am hanes Zip World Tower a’i gynlluniau presennol ac i’r dyfodol, a sut brofiad ydy gweithio yno.